Termau ac Amodau

Mae`r termau ac amodau isod yn berthnasol i`n holl archebion, a thrwy gwblhau`r bwcio rydych yn cydnabod eich bod wedi darllen, deall a chytuno â`r termau rheiny. Cymerwch amser i ddarllen yr wybodaeth isod sy`n ymdrin â`ch archeb a`n polisi canslo.

Rydym yn ceisio ein gorau i fod yn hyblyg.

I wneud cais am newid dyddiad anfonwch ebost neu'n ffonio ni.

  1. Nid oes ad daliad gyda thaleb anrheg.

  2. Bydd canslo oddi mewn i 4 wythnos i ddyddiad yr arhosiad yn esgor ar golli`r arian oni bai bod modd trefnu dyddiad arall. Ni roi`r ad daliad pan mae`r ymwelydd yn canslo 7 diwrnod cyn y gwyliau. Awgrymwn eich bod yn talu am yswiriant gwyliau rhag ofn i hyn ddigwydd.

  3. Nid ydym yn derbyn archeb grŵp, heb yn gyntaf, gael trafodaeth gyda`r darpar ymwelwyr, neu bydd hawl gan Podiau Môn i ganslo`r archeb.

  4. Nid yw Podiau Môn yn gyfrifol am ad daliad neu gostau a geir oherwydd digwyddiad sydd yn eich rhwystro rhag cwblhau`r ymweliad. Gall sefyllfaoedd gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) : rhyfel, terfysgaeth, aflonyddwch sifil neu gweithrediad diwydiannol, llifogydd, trychineb naturiol, epidemig, risg i iechyd neu ddigwyddiadau cyffelyb (Force Majeure). Cynghorir chwi i gael yswiriant gwyliau, rhag ofn. Ni roddir ad daliad os yr ydych yn penderfynu gadael ynghynt.

  5. Efallai y bydd modd newid dyddiad eich gwyliau os oes argaeledd. Codir £10 o ffi gweinyddol. Ni ellir newid dyddiad pedair wythnos cyn cychwyn y gwyliau gwreiddiol. Ni fydd ymwelwyr sy’n methu a dod oherwydd cyfyngiadau Covid-19 yn derbyn eu harian yn nol, ond trefnir dyddiadau eraill heb gost gweinyddol. Cofiwch gysylltu â ni os oes gennych broblem ynglyn â bwcio.

  6. Rhaid i’r gwesteion fod yn ddeunaw oed neu throsodd pan yn bwcio neu bydd angen iddynt gael oedolyn gyda hwy.

  7. Gwneir y bwcio ar y sail mai ar gyfer gwyliau’n unig y mae’r arhosiad am y cyfnod y cytunwyd arno a’r nifer o unigolion a nodwyd.

  8. Mae’r Podiau ar gael o 4yp pan yn cyrraedd tan 10 yb ar ddiwrnod ymadael. Codir tâl am agoriad drws a gollir. Gofynnwn i chwi gysylltu â ni i nodi pa amser yr ydych yn debygol o gyrraedd.

  9. Ni cheir ysmysgu yn y podiau gan gynnwys e-sigarennau. Ni cheir defnyddio canhwyllau yn y podiau.

  10. Mae pris eich gwyliau yn cynnwys: gwresogi, trydan, dillad gwely ar gyfer y gwely dwbl a thyweli. Dim ond gorchudd matres a roddir ar y gwely soffa; rhoddir gobennydd ychwanegol os oes angen. Gofynnir i chwi roi’r dillad gwely a’r tyweli mewn bag a ddarperir, cyn ymadael. Nid yw’r tyweli ar gyfer eu defnyddio ar y traeth.

  11. Dylai’r pod gael ei adael yn yr un cyflwr o lanweithdra ac y’i cafwyd. Mae gwesteion yn cytuno i dalu lleiafswm o £50 at lanhau’r pod petai yn cael ei adael mewn cyflwr annerbyniol. Rydym yn sicrhau defnyddiau i’ch galluogi i adael y pod yn lân a thaclus. Mae angen gwagio’r biniau i’r prif finiau yn y maes parcio.

  12. Er lles gwesteion eraill rydym gyda’r hawl i ofyn i unrhyw un sy’n aflonyddu, creu diflastod neu ymddwyn yn fygythiol i adael y safle ar fyrder. Gan ein bod yn safle bychan gofynnwn i chi ystyried lefel y sŵn wedi 11 o’r gloch y nos.

  13. Mae ymwelwyr yn cytuno i gadw`r dodrefn a`r eiddo y tu mewn, ac o amgylch y pod, yn yr un cyflwr ac yr oeddent ar ddechrau`r gwyliau, gan dderbyn ôl trael arferol.

  14. Os yw dyddiadau bwcio - am rhyw reswm - ddim ar gael ac allan o reolaeth y perchennog ceir ad daliad llawn.

  15. Nid ydym yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw newid, addasiad neu ganslo a achoswyd gan streic, salwch, tywydd garw, problemau trafnidiaeth neu achosion eraill.

  16. Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am eiddo personol, un ai y tu mewn neu`r tu allan i`r pod, neu mewn ceir yn y maes parcio.

  17. Ni chaniateir cŵn ar y safle.

  18. Rydym yn cyflwyno pecyn croeso i ymwelwyr; ond pan mae`r cynnwys wedi darfod, cyfrifoldeb yr ymwelwyr yw cael mwy o gyflenwad e.e. papur tŷ bach, hylif golchi llestri, tê, coffi a siwgr.

  19. Er lles diogelwch (gyda`r pod yn bennaf wedi`i wneud o goed) dylid ystyried hyn wrth leoli`r barberciw. Mae pwll tân ar gael, am ddim, a disgwylir iddo gael ei leoli ar y llawr llechi ger y fainc. Ni chaniateir barberciw ar y decin coed!

  20. Lleolir Podiau Môn ar dyddyn gweithredol, ac felly, er diogelwch, nid oes mynediad i`r fferm oni bai bod y perchennog yn bresennol.

  21. Mae maes parcio ar gael, ac mae`r risg yn llwyr yn gyfrifoldeb yr ymwelwyr. Gofynnwn yn garedig I chwi beidio â pharcio wrth y giat sy`n arwain at adeiladau`r fferm. Ni ellir parcio wrth y pod ei hunan a bydd gennych daith fer gyda`ch bagiau.

  22. Rydym yn cadw llyfr damweiniau. Petasech yn cael anaf, tra ar y safle, a fuasech mor garedig â`n hysbysu o hynny.

  23. Os oes problem gydag unrhyw beth yn y pod, rhowch wybod i ni mor fuan â phosibl fel y gallwn ei ddatrys ar fyrder. Petasech o`r farn y bod angen gwneud cŵyn am rhywbeth yn ymwneud â`r pod, rhaid i chwi roi gwybod i ni`n syth er mwyn rhoi cyfle I ni ymchwilio i`r mater, a phan yn bosibl, ei ddatrys. Ni fydd cŵyn yn cael ei dderbyn, nac iawndal yn cael ei ystyried os y derbynnir y gŵyn wedi i`ch gwyliau ddod i ben, gan fod hynny`n amddifadu ni o`r cyfle i`w ddatrys yn ystod eich arhosiad.

  24. Dylid goruchwylio plant trwy`r amser pan yn aros yn Podiau Môn.

  25. Petai angen, mae gan berchnogion Podiau Môn yr hawl i archwilio`r podiau ar adegau rhesymol.


Cysylltu â Ni

Gweirglodd Bach, Penmynydd, Ynys Môn, LL61 6PG

post@podiaumonpods.co.uk

07719 030 920 / 07801 996 533