Amdanom Ni

Mae Podiau Môn wedi’u sefydlu’n Gweirglodd Bach - tyddyn ym Mhenmynydd ar Ynys Môn. Rydym wedi byw yma, fel teulu, ers dros 28 o flynyddoedd. Mae’r golygfeydd o’r safle tuag at fynyddoedd Eryri- Y Carneddau, Tryfan, Y Glyderau a’r Wyddfa- yn odidog.

Mae sawl un sy’n ymweld â Gweirglodd Bach yn nodi pa mor ffodus yr ydym o gael golygfeydd mor ysblennydd. A dyma gyfle i chwithau gael profi’r panorama.

Cewch wylio’r haul boreol yn codi dros y Carneddau, tra’n eistedd, un ai ar y decin o flaen y pod neu o’r gwely dwbl!

Gan bod ein safle’n un bychan cewch aros mewn un o bedwar pod gyda’r holl gyfarpar a chael arhosiad tawel, preifat. Mae’r maes parcio’n agos, gyda llwybr o lechi’n arwain at y podiau.

Ar ein tyddyn cewch weld y cyfnod wyna’n gynnar yn y gwanwyn. Mae’r defaid Suffolk, a Scotch Mules yn pori o gwmpas y podiau. A chewch weld yr ŵyn bach yn prancio. Bydd yr ieir, sydd yn rhedeg yn rhydd, yn rhoi wyau i chwi’u profi i frecwast. Ac ynghanol hyn i gyd, mae’r geifr Angoras, sydd yn cael eu cadw ar gyfer y ‘mohair’.

Dewch i aros ar safle cyfleus llai na phedair milltir o’r Afon Menai. Mae’r dewis o atyniadau ar yr Ynys, ac ar y tir mawr, yn ddi-ddiwedd. Rydym mewn safle cyfleus I gerddwyr a beicwyr gyda’r traethau a’r mynyddoedd o fewn tafliad carreg. Mae digonedd o lefydd bwyta, o safon, yn yr ardal.

Lleoliad

Mae ein lleoliad yn gyfleus i ymwelwyr, llai na phedair milltir o Bont Britannia a Phont Menai a’r A55.

Ac mae’r ardal yn llawn o atyniadau amrywiol. Dyma restr fer o’r prif atyniadau a’u pellter o Podiau Môn:

  • Pili Palas, Porthaethwy - 1 ½
  • Ribe Ride - 4
  • Zip Wire, Bethesda - 11
  • Llanddwyn, Newborough Niwbwrch - 11
  • Biwmares - 7
  • Penmon - 12
  • Plas Newydd - 6
  • Caernarfon - 11
  • Oriel Môn - 4
  • Llwybrau beicio
  • Llwybrau’r arfordir
  • Llanberis / Wyddfa - 14

Sunday Times – Travel 30.12.18

“The views of Snowdonia behind the Menai Strait is a delight, but RibRide is spicing it up with trips aboard a 900 hp inflatable boat that hits 80 mph in 30 seconds- which is why you’re kitted out in waterproofs and goggles”

“Anglesey alone is home to the innovative Marram Grass, the Michelin starred Sosban & the Old Butchers, a Dylan’s a waterfront seafood joint”.

 

Cysylltu â Ni

Gweirglodd Bach, Penmynydd, Ynys Môn, LL61 6PG

post@podiaumonpods.co.uk

07719 030 920 / 07801 996 533