Cyrraedd / Gadael
- Cyrraedd ar ôl dau o`r gloch yn y prynhawn
- Gadael erbyn un ar ddeg y bore
- Byddwn yn glanhau cyn i chwi gyrraedd ond nid yn ystod eich arhosiad
Maes Parcio
- Ni ellir mynd â char at y podiau ond gellir cael cymorth i gludo`ch eiddo at y pod, petai angen
- Nid yw perchennog Podiau Môn yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros ddifrod neu ladrad i geir neu anffawd I berson fydd yn y maes parcio
- Gofynnwn yn garedig I chwi barcio`n y maes parcio rhag creu rhwystr wrth y mynedfeydd
Cyfrifoldeb am golled, lladrod neu ddifrod
- Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am eiddo personol yn y podiau, neu ar ein libart yn gyffredinol.
- Byddw yn codi pris am unrhyw ddifrod i gynnwys y podiau.
- Byddwn yn croesawu plant ar y safle, ond gofynnwn yn garedig i chwi eu goruchwylio gan fod Gweirglodd Bach yn fferm, fechan weithredol.
Ystyriaethau tra ar y safle
Er mwyn sicrhau bod eich arhosiad [yn ogystal â’r gwesteion eraill] yn un pleserus ;
- Gofynnwn i chwi gysidro’r lefel o sŵn (yn arbennig wedi 11 o’r gloch yn nos)
- Mae ganddom yr hawl, er lles eraill, i ofyn i chwi adael os yn cam ymddwyn.
Tywydd Garw
- Os yw’r tywydd yn troi’n arw a chwithau’n penderfynu gadael yn gynnar, ni roddir ad-daliad.
Taliadau
- Lleiafswm o ddwy noson o arhosiad.
- 20% o’r taliad yn ofynnol wrth archebu lle, nid oes modd cael ad-daliad.
- Afonnir cadarnhâd o’r archeb trwy ebost.
- Mae’r gweddill (80%) yn daladwy 4 wythnos cyn y dyddiad ymweld.
- Rydym yn ffafrio trosglwyddiad banc (i leihau’r costau) ond, derbynnir siec.
- I sicrhau archeb - mae angen llenwi’r ffurflen bwcio - Podiau Môn a rhif ffôn i sicrhau’r bwcio.
- Mae’r pris yn cynnwys trydan.
Canslo
- Mae modd i chwi ofyn am newid i’r bwcio - cysylltwch â ni. Os y gellir newid, mi wnawn; ond fedrwn ni ddim gwarantu hynny, a gall olygu newid yn y gôst.